28/08/2026
Mae yna lawer o wahanol ffyrdd y gallwch chi gynllunio’ch cynnwys a’ch ymgyrchoedd ymlaen llaw. Yma yng Ngwe Cambrian Web, yr hyn yr ydym yn tueddu i’w wneud yw eistedd i lawr ar ddechrau’r flwyddyn gyda’n gilydd ac fel tîm, meddwl am ein nodau ar gyfer y busnes am y flwyddyn. 🎯
Mae hyn wedyn yn rhoi amlinelliad da iawn i’r tîm marchnata o ble rydym eisiau mynd dros y 12 mis nesaf – a sut y gallwn hyrwyddo hynny. 📈
**Gwyddom er enghraifft mai Ionawr, Chwefror, Medi a Hydref yw ein misoedd prysuraf ar gyfer ymholiadau datblygu gwefan. Felly, rydym am i’n marchnata wthio hynny – **amser am wefan newydd? 💻✨
Yn y bôn, rydym yn ymrannu ein nodau busnes yn ymgyrchoedd marchnata. 🚀
Mae’r un peth os ydych chi’n gwerthu nwyddau, mae’n debyg bod gennych chi ddyddiadau clir iawn yn y dyddiadur i anelu atynt: 🌸 Sul y Mamau, 🐣 y Pasg, 💙 Sul y Tadau, ☀️ Gwyliau’r Haf ac yn y blaen – yn gyflym iawn rydych yn creu ac yn gweithio tuag at ymgyrchoedd ar gyfer y dyddiadau allweddol hyn. 📆
Os hoffech chi gael sgwrs am eich strategaeth farchnata a’ch ymgyrchoedd – cysylltwch â ni! 📣 Byddem wrth ein boddau yn eich helpu i deimlo’n fwy hyderus am eich marchnata. 💚
📲 01970 623 906
📩 [email protected]